Elidir Jones
banner
elidirj.bsky.social
Elidir Jones
@elidirj.bsky.social
Awdur ffantasi ac arswyd | Horror and fantasy author • Sgriptiwr | Scriptwriter • Isdeitlydd | Subtitler
Sefyllfa gwerthu llyfrau plant yng Nghymru yn 'argyfyngus'.

Ella ddylsa rywun oni bai am yr awduron eu hunain drio eu hyrwyddo nhw 'ta? Just a thought.

www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
August 5, 2025 at 7:45 AM
Prin wedi ysgrifennu flwyddyn yma yng nghanol gwallgofrwydd dod yn dad newydd, ond mae 'na stori gen i yn y gyfrol swmpus, hyfryd yma, wedi ei olygu gan Lowri Haf Cooke.

Fi yn sbwylio'r mŵd clyd Nadoligaidd efo stori ysbryd cwbl erchyll, natch.

Yn y siopau mewn ychydig dros wythnos.
November 11, 2024 at 3:40 PM
Newydd ddod yn ôl o wyliau, ac wedi darllen pentwr o lyfrau. Hwn sy'n sefyll allan.

Plotio tynn, cymeriadau tri dimensiwn, ac yn llenwi bylchau yn ein hanes a chwedloniaeth yn hytrach nac ailadrodd yr un hen straeon. Campus o nofel @CarregGwalch.
November 2, 2024 at 4:01 PM
#cig2024
November 2, 2024 at 4:01 PM
Ar ôl blynyddoedd ar wahân, mae pedwar hen ffrind coleg yn dod ynghyd ar lwybrau unig Cwm Darran er mwyn cerdded, yfed, a hel atgofion ... ond mae rhywun - neu rywbeth - yno gyda nhw, yn llechu yn y niwl ...

Mae 'Aduniad' yn arswydo siopau llyfrau RŴAN!
October 7, 2023 at 11:37 AM
Hei, pwy sy isio nofel arswyd newydd gen i FIS NESA?

Ar drip gwersylla yng Nghwm Darran, bydd cyfrinachau’n cael eu datgelu, hen ffrindiau’n troi’n elynion, a hunllefau o berfeddion llên gwerin Cymru yn dod yn fyw.

Drychwch arno fo yn ei holl ogoniant sbwci!
September 25, 2023 at 11:07 AM
S'mai bawb. Dwi'n awdur o Fangor, bellach ar ben fy nigon ym Mhontypridd. Wrth fy modd efo straeon am ddreigiau a ysbrydion... a 'na ni. Off â chi 'de.

Hello there. I'm an author from Bangor, now ensconced in Pontypridd's finery. I love stories about dragons and / or ghosts. That's it. As you were.
September 22, 2023 at 12:03 PM
Ac... anadl ddofn.

Wedi misoedd o hwyl gwyllt a gweithio'n galetach nac erioed - ar Yr Hogyn Pren, a dim llai na thri prosiect cudd arall - dwi newydd orffen. Ffiw.

Edrych ymlaen at rannu popeth yn y man, ond siawns am baned gynta?
November 2, 2024 at 4:01 PM
Mae @GwyllionMag yn derbyn straeon a cherddi ffantasi, ffugwydd ac arswyd CYMRAEG!

Rhywbeth erchyll wedi digwydd i chi yn y Steddfod? Coblyn wedi dwyn eich copi o @cylchgrawn_LOL? Aliens wedi ymosod ar stondin @AwenMeirion?

Rhowch o ar bapur a'i yrru i ni erbyn Calan Gaeaf!
November 2, 2024 at 4:01 PM
Eich cyfle ola' heddiw i weld Yr Hogyn Pren wrthi yn nyfnderoedd Llŷn.

11.30: llythrennau EISTEDDFOD
1.45: Emporiwm
3.30: Pentref Plant

Os ydych chi yn y Sowth, digon o amser i ddreifio fyny, stopio yn Port am jips, a dal un o sioeau'r pnawn.
November 2, 2024 at 4:01 PM
Dwy bennod i mewn, ac yn hwcd ar Anfadwaith o'r cychwyn, @LlyrTitus. Arbennig o dda.

Os fyddwch chi isio'r ateb Cymraeg i The Witcher rhwng eich dawns y glocsen a'ch partïon llefaru, 'da chi'n gwbod lle i droi.
November 2, 2024 at 4:01 PM
Heddiw! Mae'r Hogyn Pren yn cychwyn ar ei daith o amgylch yr Eisteddfod.

11.30: llythrennau Eisteddfod
1.45: Emporiwm
3.30: Pentref Plant

Sioe fydd yn chwalu'ch pren. Sori - pen.

Llun gan @theatrbydbach
November 2, 2024 at 4:01 PM
Wedi dod o'r Steddfod yn goch fel bitrwt a 'di sortio darllen y dyfodol agos. Joio byw.

Un broblem fach: dim hanner digon o bypedau. Wnawn ni rwbath am hynny fory. #Steddfod2023 #yrhogynpren @TheatrGenCymru
November 2, 2024 at 4:01 PM
Wedi treulio diwrnod hudolus efo @TheatrGenCymru ddoe yn gwylio'r Hogyn Pren yn gwneud ei betha'.

Rhwng chi a fi, dwi erioed wedi gweld tîm mwy talentog yn fy mywyd, nac wedi teimlo cymaint o groen gŵydd mewn chwarter awr. Does gan yr @eisteddfod ddim SYNIAD be sy'n dod.
November 2, 2024 at 4:01 PM
Diwrnod Seren a Sbarc hapus i bawb sy'n dathlu ar hyd ysgolion Cymru! Mae'n gymaint o bleser rhoi geiriau hurt bost yng nghegau'r ddau yma.

Y tri llyfr Seren a Sbarc ar gael rŵan, yn llawn jôcs twp, posau, ac Owain Glyndŵr ar gefn deinosor.
November 2, 2024 at 4:01 PM
Os ydych chi o gwmpas ar gyfer #PartiPonty heddiw, cofiwch am yr Ŵyl Chwedleua Plant!

Fyddwn ni wrthi'n creu bydoedd ffantasi yn yr Amgueddfa am 2.30 - cofiwch bacio'ch dychymyg.

Ticedi ar gael fan hyn:

https://www.pontypriddtowncouncil.gov.uk/my-post5796ac99
November 2, 2024 at 4:01 PM
Diolch am y croeso, @CDFKidsLitFest. Pleser i adrodd straeon ac arlunio a chreu bydoedd efo chi.

Hefyd, sori i holl drefnwyr #llyfryflwyddyn - dwi 'di gaddo i lond stafell o blant bod pob un yn mynd i ennill y wobr flwyddyn nesa. Dwi'n dyfaru dim.
November 2, 2024 at 4:01 PM
Penblwydd hapus yn ddwy oed i Mostyn Madog, fy nghysgod bach cwynfanllyd.

Dwi'n trysori pob un gwich, cofiwch.
November 2, 2024 at 4:01 PM
Books can be a great way to learn or brush up on a language. More fun than Duolingo, at any rate.

Pick one of these up today and add vengeful spirits, fantastical heists, and time-travelling pies to your Welsh lexicon.

#WorldBookDay #LoveReading
November 2, 2024 at 4:01 PM
Bwystfilod (a Betsanod), ysbrydion, duwiau gwyllt, dyfeisiadau gwallgo, heb sôn am Sêr a Sbarcs.

Hwyl ar y darllen heddiw, bawb!

#DiwrnodYLlyfr #CaruDarllen
November 2, 2024 at 4:01 PM
Ar y diwrnod yma yn 1797, cafodd fyddin Ffrainc eu trechu gan ferched Abergwaun, dan arweinyddiaeth Jemima Nicholas.

Yn anffodus, does fawr neb yn cofio'r deinosor arwrol roddodd help llaw.

'Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser', ar gael rŵan: https://bit.ly/3m2viKp
November 2, 2024 at 4:01 PM
Hen bryd i chi ymweld â'r Copa Coch, dach chi'm yn meddwl? Mae 'na ddiod oer a chroeso cynnes yn disgwyl amdanoch chi.

Cofiwch sychu'ch traed ar y ffordd mewn i dafarn y Twll, rhag ofn gwneud Sara'n flin...
November 2, 2024 at 4:13 PM
Dyma gyfle gwych i blant ac oedolion ddal i fyny â gweddill y gyfres. Erbyn hyn, mae'n un epig go-iawn.

- tua 170,000 o eiriau
- cannoedd o ddarluniau stiwpid o dda gan @huwaaron
- pedwar byffŵn o brif gymeriad wnewch chi ddisgyn mewn cariad â nhw
November 2, 2024 at 4:07 PM
Mae pennod gyffrous nesa Chwedlau'r Copa Coch ar y ffordd i siopau wythnos yma!

Stori 'heist' ffantasi sy'n llawn bwystfilod hunllefus, cestyll llawn cyfrinachau, a siwtiau robotaidd hiwj. Achos pam ddim?

Sibrydwch y peth: dwi'n meddwl mai hwn ydi'r llyfr gorau eto... #copacoch
November 2, 2024 at 4:01 PM
Peth da gawsoch chi ddim yr ymchwiliad 'na i lifogydd, @CyngorRhCT. Wâst o amser.

Good thing you voted against that flooding inquiry, @RCTCouncil. Top work. #Pontypridd
November 2, 2024 at 4:02 PM