Dysgu Gydol Oes
@dysgucdydd.bsky.social
2 followers 3 following 58 posts
Prifysgol Caerdydd. Cyrsiau rhan-amser a thymor byr ar gyfer oedolion, mewn amrywiaeth o bynciau. Hefyd llwybrau at raddau israddedi https://www.cardiff.ac.uk/cy/part-time-courses-for-adults
Posts Media Videos Starter Packs
dysgucdydd.bsky.social
Dysgwch ragor am gyfieithu ar y pryd fel gyrfa a ffordd o helpu eich cymuned.
dysgucdydd.bsky.social
Llongyfarchiadau i Dr Rachel Carney! Mae Rachel yn addysgu ysgrifennu creadigol yma ac yn cyflwyno 'Fragments of Us: A Poetry Film Launch'.

Cynhelir y digwyddiad dathlu rhad ac am ddim hwn ar 30.10.25 am 19:00. Cofrestrwch yma: bit.ly/4748EoW
Fragments of Us: A Poetry Film Launch
This celebration event will include a ‘private view’ film screening, ekphrastic and meta-ekphrastic poetry readings, and a short Q&A.
bit.ly
dysgucdydd.bsky.social
Croeso i'n holl fyfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich cwrs gyda ni yr hydref hwn.
dysgucdydd.bsky.social
Llongyfarchiadau i Dr Laura Shobiya! Mae Laura wedi cyd-olygu llyfr 'A Welcoming Nation?
Intersectional approaches to migration and diversity in Wales’. Mae'r llyfr ar gael mewn print ac fel e-lyfr.

www.uwp.co.uk/book/a-welco...
A Welcoming Nation? | UWP
www.uwp.co.uk
dysgucdydd.bsky.social
Mae ein ffrindiau ym Mhrosiect Treftadaeth Caer wedi lansio podlediad newydd. Dysgwch fwy am Brosiect Treftadaeth Caer yng Nghaerau, Caerdydd a phwysigrwydd ymgysylltu cymunedol a dysgu gydol oes. Gwrandewch yma: www.publicengagement.ac.uk/caer-heritag...
CAER Heritage Podcast | NCCPE
www.publicengagement.ac.uk
dysgucdydd.bsky.social
Mae myfyriwr Dysgu Gydol Oes o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr ddysgu genedlaethol.
Cyflwynwyd Gwobr Inspire i Dr Hamdi Abdalrhman! Dyma wobr gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru. Llongyfarchiadau Hamdi! @learnworkcymru.bsky.social @prifysgolcdydd.bsky.social
dysgucdydd.bsky.social
Diolch i bawb a ymwelodd â ni yn ystod ein Diwrnod Agored. Cawson ni i gyd amser gwych. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i gyrsiau sy'n dechrau cyn bo hir.
www.cardiff.ac.uk/cy/part-time...
Cyrsiau rhan amser i oedolion
Cyrsiau rhan amser yn y dyniaethau, ieithoedd, busnes, cyfrifiadura, gwleidyddiaeth a'r gyfraith, gwyddoniaeth a'r amgylchedd, ac astudiaethau cymdeithasol.
www.cardiff.ac.uk
dysgucdydd.bsky.social
Mae ein darlith gyhoeddus Archwilio'r Gorffennol nesaf yn cael ei chynnal yn fuan. Bydd y cyflwyniad hynod ddiddorol a rhad ac am ddim hwn yn digwydd ar-lein.
Teitl: Llofruddion a Templars
Dyddiad: Dydd Mercher 15 Hydref 2025
Amser: 19:00
Cadwch eich lle yma bit.ly/47EbD9s
Exploring the Past online free lecture, Wednesday 15th October, 7pm
Our next Exploring the Past online free lecture takes place on Wednesday 15 October 2025. Please sign up to book a place.
bit.ly
dysgucdydd.bsky.social
Cyrsiau newydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyrsiau rhan-amser i oedolion. Cyfleoedd i wella'ch CV, cynyddu eich gwybodaeth, cael eich ysbrydoli a gwneud ffrindiau newydd. Gallech hefyd baratoi ar gyfer astudio gradd trwy gofrestru ar un o'n llwybrau.
www.cardiff.ac.uk/cy/part-time...
dysgucdydd.bsky.social
"Bedair blynedd yn ôl, roedd hi’n amhosibl dychmygu bod yn nyrs. Doedd gen i ddim y cymwysterau ar gyfer mynediad uniongyrchol, a gan fy mod i’n fyfyriwr aeddfed â chyfrifoldebau ariannol, roedd angen i fi gael llwybr a allai weithio ochr yn ochr â chyflogaeth amser llawn." Llongyfarchiadau i Samah!
dysgucdydd.bsky.social
Llongyfarchiadau i Kate! Cwblhaodd Kate y Llwybr at Ofal Iechyd yn Dysgu Gydol Oes cyn astudio BSc mewn Therapi Galwedigaethol.
“Roedd y Llwybr yn gam gwych i’m paratoi ar gyfer astudio gradd. Mae fy hyder yn fy ngallu wedi datblygu."
dysgucdydd.bsky.social
Cafodd ein hymwelwyr groeso cynnes iawn yn ein Diwrnod Blasu i Ddysgwyr sy’n Oedolion. Diolch i bawb a gymerodd ran, gobeithio y byddwch chi’n dychwelyd i astudio gyda ni yn fuan.

www.caerdydd.ac.uk/dysgu
dysgucdydd.bsky.social
Croeso

Mae ein hysgolion haf iaith yn dechrau'r wythnos hon. Maen nhw’n cynnig cyfle gwych i ddysgu iaith newydd neu wella eich sgiliau presennol mewn Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg. Mwynhewch eich cwrs!

www.cardiff.ac.uk/cy/part-time...
Dysgwch iaith newydd dros yr haf
Yr haf hwn rydym yn cynnig cyrsiau iaith dwys mewn Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Wcreineg. Mae ystod o lefelau ar gael o ddechreuwyr i rai mwy datblygedig.
www.cardiff.ac.uk
dysgucdydd.bsky.social
Llongyfarchiadau i Rachel Smith. Mae Rachel yn dysgu ar gyrsiau Dysgu Gydol Oes ac mae ei ffilm ddogfen yn cael ei dangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar 28.06.25 14:45
Greer Ralston – Giving It All to Art
www.chapter.org/cy/whats-on/...
Greer Ralston: Giving It All To Art
Sefydlwyd Chapter yn 1971, ac mae’n ganolfan rhwngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
www.chapter.org
dysgucdydd.bsky.social
Bydd Dr Juliette Wood (unwaith eto) yn westai ar raglen In Our Time ar BBC Radio 4. Mae gan Juliette wybodaeth arbenigol o llên gwerin a mytholeg a bydd yn trafod dreigiau ar 26 Mehefin.
www.bbc.co.uk/programmes/m... @cuhistarchrel.bsky.social
BBC Radio 4 - In Our Time, Dragons
Melvyn Bragg and guests discuss this ubiquitous mythical creature.
www.bbc.co.uk
dysgucdydd.bsky.social
Ymwelodd Jane Hutt AS â myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs 'Y System Wleidyddol yng Nghymru' yn Dysgu Gydol Oes. Siaradodd Jane am ei phrofiad ym myd gwleidyddiaeth gan ganolbwyntio ar fenywod ym myd gwleidyddiaeth, Cymru’n genedl noddfa a gwrth-hiliaeth.
dysgucdydd.bsky.social
Mae ein cyrsiau iaith yn dechrau'n fuan

Bydd ystod o gyrsiau ar gael o ddechreuwyr llwyr i siaradwyr mwy profiadol mewn Ffrangeg, Eidaleg neu Sbaeneg. Mae’n berffaith ar gyfer dysgu iaith newydd neu i loywi'r sgiliau iaith sydd gennych eisoes.

www.cardiff.ac.uk/cy/part-time...
Dysgwch iaith newydd dros yr haf
Yr haf hwn rydym yn cynnig cyrsiau iaith dwys mewn Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Wcreineg. Mae ystod o lefelau ar gael o ddechreuwyr i rai mwy datblygedig.
www.cardiff.ac.uk
dysgucdydd.bsky.social
Cool Cymru! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿😎😎😎

Cynhelir ein darlith Archwilio'r Gorffennol nesaf yfory. Cadwch eich lle nawr! Mae'n rhad ac am ddim ac ar-lein.

www.cardiff.ac.uk/community/ev...
Cool Cymru
If the story of Wales in the 1990s was a movie plot, it would all seem so far-fetched. Thankfully, it was all true...
www.cardiff.ac.uk
dysgucdydd.bsky.social
Llongyfarchiadau i Pauline Beesley! Mae Pauline wedi derbyn cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (FHEA) gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r rhaglen hon yn helpu staff i ddatblygu'r ffyrdd maen nhw'n dysgu ac yn addysgu, ac yn rhoi cydnabyddiaeth iddyn nhw am eu hymarfer proffesiynol.
.