Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
banner
cbspenybont.bsky.social
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
@cbspenybont.bsky.social
Ffrwd Bluesky swyddogol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gweler ein protocol cyfryngau cymdeithasol: https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/gwasanaethau-cwsmeriaid/ein-polisi-cyfryngau-cymdeithasol/

English posts: @bridgend.gov.uk
Chwilio am swydd newydd? Neu am newid gyrfa?

Ymunwch â ni yn Ffair Swyddi #Porthcawl yn ddiweddarach y mis hwn!

📅 Dydd Iau 29 Ionawr
⏰10am – 1pm
📌 Yr Hi-Tide Inn, Porthcawl
January 9, 2026 at 3:36 PM
!! Cyfle olaf i gael #DweudEichDweud !!

Rydym yn chwilio am drigolion i rannu eu barn am sut maen nhw'n defnyddio teithio llesol a sut mae'n effeithio ar eu hôl troed carbon.

📅 Dyddiad cau: 28 Chwefor

🔗 cymerwch-ranpen-y-bontarogwr.uk.engagementhq.com/arolwg-teith...
January 9, 2026 at 2:10 PM
Heddiw mae’r ymgynghoriad #cyllideb #AmserSiarad yn cael ei lansio.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein i ddweud eich dweud ar sut rydych chi'n meddwl y dylem flaenoriaethu ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol 🔗 cymerwch-ranpen-y-bontarogwr.uk.engagementhq.com/llunio-dyfod...
January 7, 2026 at 12:16 PM
Mae preswylydd lleol wedi lansio ei fusnes cyntaf drwy agor pizzeria yn Wyndham Street yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr 👇

www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/cy...
January 6, 2026 at 11:22 AM
Yr Apêl Siôn Corn gorau erioed! 🎁

Rydyn ni wedi codi swm anhygoel o £11,869.13 gan gynnwys Cymorth Rhodd, gan chwalu ein targed o £10,000!

Da iawn bawb!

🔗 www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/ap...
December 23, 2025 at 12:10 PM
🏆 Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl dros y 18 mis diwethaf?

Mae Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn i drigolion lleol gyflwyno eu henwebiadau ar gyfer Gwobr Ddinasyddiaeth y Maer.

🗓️ Dyddiad cau: Dydd Gwener 17 Ionawr 2026
December 23, 2025 at 10:09 AM
Mae The Steel Shop Ltd wedi gallu buddsoddi yn nyfodol eu busnes, diolch i gyllid gan y Grant Datblygu Busnes 👇

www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/bu...
December 22, 2025 at 2:03 PM
Peidiwch â gadael i facteria ddifetha eich Nadolig.

Ewch ati i ddadmer bwyd yn ddiogel a’i goginio’n drylwyr, a storiwch fwyd dros ben yn gyflym i gadw pawb – yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed – yn ddiogel dros y Nadolig.
December 22, 2025 at 8:52 AM
Diweddariad ailgylchu a gwastraff dros y Nadolig🎄♻️ 👇

❌ Ni fydd casgliadau ddydd Iau 25 Rhagfyr (Diwrnod Nadolig) a dydd Gwener 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan)
December 19, 2025 at 12:26 PM
Mae busnes yn y #Pîl wedi datgelu cynlluniau twf mawr, diolch i gyllid trawsnewidiol gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU!

🔗
www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/bu...
December 18, 2025 at 3:48 PM
Siopa munud olaf ar gyfer y #Nadolig?

Cewch fynediad at gynigion unigryw gan fasnachwyr lleol drwy lawrlwytho yr ap ‘We Love Bridgend / Porthcawl / Maesteg’ ar yr Apple App Store neu Google Play drwy chwilio am BRIDGEND / PORTHCAWL / MAESTEG.

🔗 bridgenddigital.christmas
December 18, 2025 at 11:31 AM
Gyda chefnogaeth drwy’r Grant Datblygu Busnes, mae @Infinite_Renew wedi gallu datblygu eu busnes ymhellach, gan ddod â mwy o ynni adnewyddadwy i Ben-y-bont ar Ogwr a thu hwnt 🌿

🔗 www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/cy...
December 15, 2025 at 1:27 PM
🎅Cyfle olaf i wneud gwahaniaeth y Nadolig hwn!

🎯Rydyn ni’n agos at guro ein targed o £10,000 – gyda'ch rhodd chi mae gennym gyfle i helpu mwy o blant nag erioed i deimlo'r hud eleni!

Cyfrannwch at apêl Siôn Corn: www.justgiving.com/campaign/san...
December 12, 2025 at 2:58 PM
Mae'r datblygwr ynni adnewyddadwy o Ben-y-bont, Infinite Renewables wedi llwyddo i sicrhau cyllid i roi hwb i’w gwaith o ddatblygu technoleg werdd!

🔗 www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/cy...
December 12, 2025 at 9:48 AM
Ar ddydd Gwener 5 Rhagfyr, mynychodd 234 o ddysgwyr Seren Blwyddyn 10 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr #Bridgend eu cyfarfod Croeso i Seren cyntaf!
December 10, 2025 at 4:52 PM
Clirio’r cartref cyn y Nadolig, neu’n chwilio am fargeinion Nadoligaidd?
Gallwch gyfrannu, neu brynu eitemau dodrefn a thrydan yn ein siopau ailddefnyddio yng nghanolfannau ailgylchu #YPil a #Maesteg.
www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/a...
December 10, 2025 at 12:42 PM
Dathlwch dymor y Nadolig mewn steil yn un o'r 'bwytai cyrchfan' yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Gallwch nawr archebu bwrdd ar-lein yn
bridgenddigital.christmas
December 9, 2025 at 2:49 PM
Ymunwch â ni ym 'Marchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn' am hwyl Nadoligaidd i'r teulu wrth i Sgwâr Marchnad Maesteg gael ei drawsnewid yn Ŵyl y Gaeaf, yn cynnwys stondinau lleol, adloniant byw a mwy!
📅 Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr, 11am - 3pm
December 9, 2025 at 11:41 AM
Angen dianc rhag yr oerfel?

Ewch i un o'n mannau cynnes i gael lle clyd i gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf hwn gyda BAVO ☕

🔗 www.bavo.org.uk/cy/get-help/...
December 8, 2025 at 2:09 PM
#Swydd: Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol rhan-amser, yn gweithio o fewn y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ym Mwrdeistref Sirol #Penybont.

📅 Dyddiad cau: 10 Rhagfyr

jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 8, 2025 at 10:18 AM
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer #prentisiaeth yn ein tîm Caffael!

Mae hwn yn gyfle newydd i chi ymuno â'n tîm Caffael Corfforaethol a dilyn prentisiaeth, fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa ym maes caffael.

🔗 jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 5, 2025 at 3:03 PM
📢Rydyn ni’n recriwtio – Gweithwyr Cymdeithasol 1, 2 a 3. Ymunwch â'n Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol sy'n gweithio i gyflawni deilliannau cadarnhaol i oedolion ag Anabledd Dysgu. Buddion sylweddol!👉Ymgeisio: jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 5, 2025 at 10:46 AM
Beth all Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr gynnig i’ch busness?

✔ Cyfleoedd i rwydweithio gyda busnesau lleol
✔ Y newyddion a datblygiadau diweddaraf
✔Twf busnes drwy weminarau a digwyddiadau

Cofrestrwch heddiw, yn rhad ac am ddim! 👇
www.bridgendbusinessforum.co.uk/cy/
December 4, 2025 at 10:29 AM
Cofiwch siopa’n lleol a chefnogi eich stryd fawr y Nadolig hwn!

Mae cynnig Nadolig Digidol Pen-y-bont ar Ogwr yn ôl ac yn fwy nag erioed gyda chynigion unigryw gan fasnachwyr lleol yng nghanol trefi #Penybont #Maesteg a #Porthcawl!

nadoligpenybontarogwr.online
December 3, 2025 at 1:49 PM
👏🏆Llongyfarchiadau i Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi derbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy am eu harweinyddiaeth yn hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy o ffynonellau lleol.

Lluniau: Matt Horwood
December 3, 2025 at 9:17 AM