Cylchgrawn Barn
@cylchgrawn-barn.bsky.social
350 followers 200 following 41 posts
BARN pobl Cymru mewn cylchgrawn Cymraeg misol. Celfyddydau. Gwleidyddiaeth. Gwin. Gwyddoniaeth. Llyfrau a mwy.
Posts Media Videos Starter Packs
cylchgrawn-barn.bsky.social
Newyddion cyffrous!

Ar ôl misoedd ar y gweill, mae hi’n barod!
✨ Mae ein gwefan newydd YN FYW ✨

🔗 Cliciwch ar barn.cymru

#GwefanNewydd #GwefanBARN #CylchgrawnBARN

Mwynhewch!
cylchgrawn-barn.bsky.social
Geraint Lewis sy'n trafod y llwyfannau sydd ar gael i gerddoriaeth glasurol yng Nghymru heddiw yn rhifyn mis Hydref o BARN 🎻
ambobdim.bsky.social
O’r Proms i wlad ‘Pop yw Popeth’

Bu ymweliad â phrif ŵyl cerddoriaeth glasurol Prydain yn ddiweddar yn fodd i atgoffa ein gohebydd am y prinder llwyfan i gerddoriaeth o’r fath yng Nghymru

Darllenwch yr erthygl o rifyn diweddaraf @cylchgrawn-barn.bsky.social nawr: www.ambobdim.cymru/profile-cont...
O’r Proms i wlad ‘Pop yw Popeth’ - Ambobdim
Bu ymweliad â phrif ŵyl cerddoriaeth glasurol Prydain yn ddiweddar yn fodd i atgoffa ein gohebydd am y prinder llwyfan i gerddoriaeth o’r fath yng Nghymru. Wrth baratoi hyn o lith am gyngherddau haf C...
www.ambobdim.cymru
cylchgrawn-barn.bsky.social
🍂 Mae hi’n ddiwrnod cyntaf mis Hydref, ac mae rhifyn diweddaraf cylchgrawn BARN yma! Agorwch eich copi a mwynhau ei gynnwys difyr.

🎭Rhagflas o gynhyrchiad diweddaraf #TheatrCymru
📰Erthygl graff gan @richardwynjones.bsky.social am dwf Reform yng Nghymru… a llawer mwy! #GwleidyddiaethCymru
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ceridwen Lloyd-Morgan, yn rhifyn Medi, sy'n rhannu ei hargraffiadau o'r Lle Celf yn Eisteddfod Wrecsam 🎨
cylchgrawn-barn.bsky.social
Mae 'na arddangosfa arbennig yn Oriel Mostyn, Llandudno ar hyn o bryd sy'n cyfuno gwaith newydd gan artistiaid Cymreig cyfoes a gwrthrychau o dair amgueddfa. Aur Bleddyn sy'n ymateb iddi yn rhifyn Medi BARN. Mae Carreg Ateb: Vision or Dream ymlaen tan 27 Medi, felly brysiwch os ydych am ei gweld!🎨
cylchgrawn-barn.bsky.social
Wedi gorffen darllen cynnyrch llenyddol Eisteddfod Wrecsam eto? 📚👑🪑

Yn rhifyn Medi BARN mae Dylan Iorwerth yn bwrw golwg ar y Cyfansoddiadau a Meg Elis yn adolygu'r ddwy gyfrol ryddiaith fuddugol - 'Anfarwol' Peredur Glyn a 'Cuddliwio' Bryn Jones.
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ymateb i'r arolygon barn am etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf y mae @richardwynjones.bsky.social ein colofnydd gwleidyddol yn rhifyn mis Medi BARN ✍️
cylchgrawn-barn.bsky.social
Yn Barn mis Medi mae tîm o adolygwyr yn pwyso a mesur yr Eisteddfod a’i chynnyrch llenyddol 📷 @celfcalon.bsky.social @eisteddfod.cymru

Ceir erthyglau hefyd ar bob math o bynciau, a chyfraniad cyntaf bob yn ail fis ein colofnydd newydd Alun Ffred.
Mynnwch eich copi am wledd o ddarllen hydrefol!🍂
Reposted by Cylchgrawn Barn
cylchgrawn-barn.bsky.social
Mae rhifyn cyfredol BARN yn un dwbl ac yn cynnwys adran helaeth o erthyglau difyr am ardal yr Eisteddfod, ddoe a heddiw. Yn eu plith mae cyfweliad Elin Llwyd Morgan gyda chadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Am flas o'r gweddill ewch i'n gwefan barn.cymru
cylchgrawn-barn.bsky.social
Cofiwch am hwn fory! Lansiad rhifyn dwbl Barn, dydd Llun, ar faes yr Eisteddfod, manylion isod👇
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ar y maes dydd Llun? Dewch draw i lansiad y rhifyn tew! @bethankilfoil.bsky.social, Graham Edwards ac eraill yn cymryd rhan...

🗓️Dydd Llun, 4 Awst, 1 o'r gloch
📍Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ar y maes dydd Llun? Dewch draw i lansiad y rhifyn tew! @bethankilfoil.bsky.social, Graham Edwards ac eraill yn cymryd rhan...

🗓️Dydd Llun, 4 Awst, 1 o'r gloch
📍Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
cylchgrawn-barn.bsky.social
Yn BARN y mis yma... erthygl ddeifiol arall gan ein colofnydd gwleidyddol @richardwynjones.bsky.social
cylchgrawn-barn.bsky.social
Cofiwch fod rhifyn mawr yr haf o BARN allan! Mae'n cynnwys adran arbennig o erthyglau am fro'r Eisteddfod, adolygiadau o lyfrau a cherddoriaeth newydd, a llu o bethau difyr eraill. I gael blas ohono, ewch i'n gwefan barn.cymru
cylchgrawn-barn.bsky.social
Gyda Bil y Gymraeg yn dod yn ddeddf yn ystod y misoedd i ddod, mae Heini Gruffudd yn trafod gwendidau'r ddeddf yn ei erthygl yn Barn y mis yma - rhifyn Mehefin ar gael yn eich siop lyfrau leol.
cylchgrawn-barn.bsky.social
Bôn yw'r enw ar arddangosfa sydd i'w gweld yn Oriel Plas Glyn y Weddw –– enw addas ar arddangosfa sy’n rhan o brosiect ehangach i helpu arlunwyr ar ddechrau eu gyrfa… Aeth Menna Baines i ymweld â’r arddangosfa; darllenwch ei hargraffiadau yn rhifyn Mehefin BARN.
cylchgrawn-barn.bsky.social
Trafod y Bil Cymorth i Farw y mae’r meddyg Catrin Elis Williams yn rhifyn Mehefin BARN, a sut y gellid rheoleiddio'r broses pe bai’r bil yn dod i rym.
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ar ôl buddugoliaeth ysbugol Anthony Albanese ar 3 Mai, mae’r diffiniad o ‘dirlithriad’ mewn lecsiwn Awstralaidd wedi newid… Ein colofnydd Andy Bell sy’n esbonio pam yn rhifyn Mehefin BARN.
cylchgrawn-barn.bsky.social
✍️Ymateb i'r pôl piniwn diweddara am ganlyniadau etholiad nesaf y Senedd mae @richardwynjones.bsky.social yn rhifyn Mehefin BARN, gan fentro rhagweld newidiadau dramatig i dirlun gwleidyddol Cymru. Darllenwch ei erthygl gyfan a chael blas ar weddill y rhifyn ar ein gwefan barn.cymru
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ydych chi wedi gweld rhestr fer Llyfr y Flwyddyn? Edrychwch ar sylwadau ein colofnydd Meg Elis yn y rhifyn diweddaraf! 📚 #LLYF25
cylchgrawn-barn.bsky.social
Dim ond mis sydd ar ôl tan Bencampwriaeth Ewro'r Merched yn y Swistir! Bu Peredur Lynch yn sgwrsio ag un o arloeswyr mawr y gêm yng Nghymru - yr Athro Laura McAllister. Darllenwch y cyfweliad yn rhifyn Mehefin BARN. @lauramcallister30.bsky.social
cylchgrawn-barn.bsky.social
Mae rhifyn Mehefin allan! Ewch i gael blas ar y cynnwys difyr ac amrywiol ar ein gwefan www.barn.cymru
Reposted by Cylchgrawn Barn
ambobdim.bsky.social
📖 @cylchgrawn-barn.bsky.social

📰Yr arolwg barn blwyddyn-i-fynd

✍️Darllenwch yr erthygl gan @richardwynjones.bsky.social o rifyn diweddaraf Barn am ddim ar AM nawr: amam.cymru/barn/yr-arol...
cylchgrawn-barn.bsky.social
Ysgrif goffa i Nesta Wyn Jones yn rhifyn diweddaraf BARN. Gwerfyl Pierce Jones sy’n coffáu’r bardd cynnil, crefftus a dwys o Abergeirw.
cylchgrawn-barn.bsky.social
Mae hi’n mynd i fod yn braf penwythnos yma yn ôl y rhagolygon… Pwy sy'n edrych ymlaen at lasiad o win yn yr haul? Mae gan Shôn Williams hanner dwsin o’r gwinoedd gorau ar gyfer y gwanwyn i chi yn BARN mis Mai! 🥂