Cymdeithas yr Iaith
@cymdeithas.cymru
430 followers 41 following 320 posts
Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a'n cymunedau fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros ryddid a chyfiawnder. linktr.ee/Cymdeithas
Posts Media Videos Starter Packs
cymdeithas.cymru
Bydd nwyddau Nid yw Cymru ar Werth ar gael yn y rali ym Methesda fis nesaf!

Yn cynnwys👇
🏷️ Sticeri car “Dyfodol i’n Cymunedau”
☕ Mygiau
👕 Crysau-T

Mae pob ceiniog o’r elw’n mynd yn ôl i’n gwaith ymgyrchu dros ddyfodol Cymraeg i Gymru 💪

Dewch draw i’n stondin i gael eich un chi!
cymdeithas.cymru
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd rhan yn y Cyfarfod Cyffredinol ddydd Sadwrn, a llongyfarchiadau i’r Swyddogion newydd a gafodd eu hethol i Senedd y Gymdeithas🎉

Roedd yn ddiwrnod llawn ysbryd ac egni, ac rydym yn barod am y flwyddyn sydd o’n blaenau!✊🤩
cymdeithas.cymru
Yng ngeiriau Owain, “Hoffwn ddiolch i Joseff am ei waith dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn gadeirydd ar fudiad sy’n hynod agos at fy nghalon ac ar adeg mor dyngedfennol i’r iaith.” 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🙌🏼
cymdeithas.cymru
Llongyfarchiadau enfawr i Owain Meirion ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith 2025-26👏🏼
cymdeithas.cymru
Yfory bydd Joseff Gnagbo yn trosglwyddo’r awenau i Gadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith ar gyfer 2025–26.

Diolch i ti Joseff am dy waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf 🙏

Dewch i’r Cyfarfod Cyffredinol i bleidleisio dros y Cadeirydd newydd 🗳️
cymdeithas.cymru
Mis i fynd tan y rali “Nid yw Cymru ar Werth”❗

Dewch i godi’ch llais dros ddyfodol ein cymunedau – mae’r grym yn ein dwylo ✊

🗓️ Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd, 12yp
📍 Bethesda

Pwy sy’n dod❓
cymdeithas.cymru
Gweithdy Cymunedol🔨🎨

Gwneud arwyddion ar gyfer Rali Nid yw Cymru ar Werth: Grym yn ein Dwylo🪧

📅 Dydd Sadwrn, 25 Hydref
🕡 10yb - 12yp
📍Neuadd Ogwen (Neuadd & Ystafell Gwenllian)
cymdeithas.cymru
“Dwi’n meddwl mai beth mae’r dyfarniad yma’n dangos ydy unwaith yn rhagor bod y drefn ddeddfwriaethol yn cefnogi eiddo fel buddsoddiad yn hytrach na chefnogi tŷ fel cartref. Mae dros 65% o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Os nad ydy hynny’n argyfwng, ‘wn i ddim beth sydd.” 🏡⚠️
cymdeithas.cymru
📺 Robat Idris, aelod o grŵp Cymunedau Cynaliadwy’r Gymdeithas, yn siarad ar raglen Newyddion S4C wythnos diwethaf am ddyfarniad Yr Uchel Lys yn erbyn mesurau’r Cyngor Sir Gwynedd i gyfyngu ail gartrefi.
cymdeithas.cymru
📣 Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith 2025

🗓️ Dydd Sadwrn, 4 Hydref
🕤 9:30yb
📍 Canolfan Arad Goch, Aberystwyth / Ar-lein

Dewch i drafod cynigion, pleidleisio dros swyddogion, a chynllunio camau nesaf yn ein hymgyrchoedd dros Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

👉 Croeso cynnes i bawb
cymdeithas.cymru
📢 Sesiwn i Aelodau Newydd – Croeso i Gymdeithas yr Iaith 📢

Dewch i'r sesiwn ar-lein i glywed mwy am ein gwaith, sut allwch chi gymryd rhan fel aelod newydd, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi.

📅 Nos Fawrth, 30 Medi
🕡 6.30yh

✉️ Cysylltwch [email protected] i gael y ddolen i ymuno
Reposted by Cymdeithas yr Iaith
iestynrhys.bsky.social
Cyfarfod Cell Caerdydd
Cymdeithas yr Iaith
7 Hydref, 7yh
cymdeithas.cymru
Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefyll gyda chymunedau fel Gwynedd a chefnogi cynghorau sy’n defnyddio Erthygl 4 i sicrhau tai i bobl leol. 🏠✊

Am fwy o wybodaeth:
➡️ cymdeithas.cymru/newyddion/ca...
➡️ golwg.360.cymru/newyddion/21...
cymdeithas.cymru
⚖️🏡 Mae’r Uchel Lys wedi dyfarnu yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4. Dyma ergyd i hawliau democrataidd Cymru a'n cymunedau Cymraeg. Mae’n annerbyniol bod cyfreithiau Cymru yn cael eu dehongli gan system gyfreithiol Saesneg nad yw’n deall ein hanghenion na’n hiaith.
cymdeithas.cymru
🖊 "Yn amlwg, mae arfer o'r fath yn gwbl annerbyniol. Os yw hyn yn wir yn yr achos yma, rydyn ni'n ffyddiog y bydd Llafur Cymru yn penderfynu newid y fath bolisi gwarthus cyn gynted ag y daw'r stori i olau dydd."

- Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith
nation.cymru
Would-be Labour candidates for next year’s Senedd election were told their messages to the party’s members could only be half as long if they insisted on having a statement in Welsh as well as in English, we can reveal ✍️Martin Shipton
Labour planned to discriminate against Senedd candidates who wanted to write to party members in Welsh
Martin Shipton Would-be Labour candidates for next year’s Senedd election were told their messages to the party’s members could only be half as long if they insisted on having a statement in Welsh as ...
wp.me
cymdeithas.cymru
🔴 Huw Williams: Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor (UMCB)
cymdeithas.cymru
🟢 Osian Jones: Ymgyrchydd sydd yn rhan o ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth' Cymdeithas yr Iaith
cymdeithas.cymru
🔴 Mel Davies: Cyn-Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen, bellach yn gweithio’n llawrydd fel Ymghynhorydd Datblygu Cymunedol
cymdeithas.cymru
🟢 Jaci Cullimore: Cantores ac ymgyrchydd tai lleol sydd wedi tynnu sylw at effeithiau tai haf ac airbnb ym Methesda
cymdeithas.cymru
🔴 Siân Gwenllian AS: Cynrychiolydd etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, a Llefarydd Plaid Cymru dros Dai a Chynllunio
cymdeithas.cymru
📢 Siaradwyr Rali Nid yw Cymru ar Werth: ‘Grym yn ein Dwylo’📢

📍 Bethesda
📆 1 Tachwedd 2025
⏰ 12yp
cymdeithas.cymru
📢 Dim ond wythnos i fynd!
Fforwm Cyhoeddus: Tynged yr Iaith Sir Gâr 2025

🗓️ Dydd Sadwrn, 27 Medi
🕙 10:00–12:30 (te/coffi o 09:30)
📍 Llyfrgell Caerfyrddin (llawr gwaelod)

🌱🏡 Testun eleni: Dyfodol ein Cymunedau Gwledig Cymraeg
cymdeithas.cymru
Manylion:

📅 4 Hydref 2025
⏰ 9.30yb
📍 Yn rhithiol / Canolfan Arad Goch, Aberystwyth
ℹ️ [email protected] / 01970 624501

#CyfCyff #CymdeithasYrIaith
cymdeithas.cymru
Sesiynau Trafod Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith: Ymgyrchu yn y Byd sydd Ohoni🌎

1️⃣: ‘Cymunedoli Iaith’ - Gweithdy dan ofal Elin Hywel
2️⃣: ‘Ymlaen â’r Chwyldro - Trosglwyddo’r Ymgyrch i’r Genhedlaeth Nesaf’ - Trafodaeth Banel gyda Sian Howys, Tamsin Davis, Owain Meirion, Mirain Owen ac eraill
cymdeithas.cymru
🚩 Ymunwch â ni!

✊ Rali a Gorymdaith: Nid yw Cymru ar Werth – Grym yn ein Dwylo

🗓️ Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd, 12:00
📍 Bethesda

Dewch i sefyll gyda ni dros ddyfodol ein cymunedau. Po fwyaf ohonom sy’n dod at ei gilydd, y cryfaf fydd ein llais.