Eglwys Dewi Sant, CF10 3DD
banner
eglwysdewisant.bsky.social
Eglwys Dewi Sant, CF10 3DD
@eglwysdewisant.bsky.social
Yr ydym yn rhan o'r Eglwys yng Nghymru yng nghanol dinas Caerdydd sy'n addoli ac yn gwasanaethu Duw trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae croeso a lle i bawb sydd yn ystyried neu ailgydio yn eu ffydd neu sy'n chwilio am gartref ysbrydol.
'Dyn ni wedi cyrraedd trothwy'r Nadolig, ac os dych chi'n digwydd bod yng Nghaerdydd dros yr Ŵyl mae croeso i chi ymuno â ni yn un o'n gwasanaethau i ddathlu genedigaeth y Gwaredwr.

"Daeth y Ceidwad, llawenhawn,
Gyda'r dorf i Fethlem awn"
December 23, 2025 at 9:45 PM
Byddwn yn cynnal ein gwasanaeth Naw Llith a Charolau nos Sul 21 Rhagfyr 2025 am 6.00pm. Wedi'r hir ddisgwyl, byddwn yn dechrau ar ein taith 'tua Fethlem dref' a'r Nadolig o ddifri'. Croeso cynnes i chi ymuno â ni a chwyddo'r canu.
December 20, 2025 at 7:30 PM
Reposted by Eglwys Dewi Sant, CF10 3DD
Please share wherever useful:
December 20, 2025 at 1:42 PM
Mae'r Nadolig yn gyflym yn nesáu ac fel rhan o'n digwyddiadau yn Eglwys Dewi Sant byddwn yn cynnal ein gwasanaeth Carolau Dwyieithog i bawb sy'n gweithio o amgylch y Cilgant, Dydd Mercher 17 Rhagfyr am 1.00pm. Croeso cynnes i bawb.
December 16, 2025 at 9:43 PM
Ar Sul yr Adfent byddwn yn cynnal gwasanaeth arbennig yng ngolau cannwyll 'O'r Tywyllwch i'r Goleuni' Nos Sul 30 Tachwedd am 6.00pm. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys darlleniadau, emynau a cherddoriaeth yr Adfent gyda chôr yr Eglwys yn cymryd ran flaenllaw. Croeso i bawb.
November 28, 2025 at 1:14 PM
A ninnau ar drothwy'r Adfent, mae'r rhestr o'n holl wasanaethau yn Eglwys Dewi Sant ar gyfer yr Adfent a'r Nadolig wedi mynd lan ar ein gwefan - eglwysdewisant.org.uk.

Croeso i chi ymuno â ni.

O hyfryd sain! mae'r Iesu'n dod
Yn ôl addewid nef
Ei orsedd fyddo ym mhob bron,
A'i fawl ar felys lef!
eglwysdewisant.org.uk
November 25, 2025 at 11:24 PM
'Dyn ni wedi cyrraedd Sul olaf y flwyddyn eglwysig a Sul Crist y Brenin. Dyma fy hoff emyn ar y Sul arbennig hwn:

Dacw lofrudd ar ei aswy,
Dacw leidr ar ei dde;
Draw fe'i hoeliwyd yn y canol -
Brenin daear, brenin ne'!
Mi apeliaf
At yr orsedd ar y groes. WW Pantycelyn.
November 23, 2025 at 7:37 AM
Ydych chi'n siaradwyr newydd ac yn chwilio am gyfle i siarad Cymraeg neu yn chwilio am gyfle i gwrdd â phobl newydd? Os felly, mae croeso i chi ddod i'n bore Coffi a Chlonc a gynhelir yn neuadd Eglwys Dewi Sant bore Sadwrn 15 Tachwedd rhwng 10.30am a chanol dydd. Bydd croeso mawr yn eich disgwyl.
November 14, 2025 at 11:53 AM
Chwilio am gyfle i sgwrsio yn Gymraeg? Croeso i chi ymuno â ni yn ein Bore Coffi a Chlonc yn neuadd Eglwys Dewi Sant bore Sadwrn 18 Hydref 2025 rhwng 10.30am - 12.00pm. Gobeithio gweld chi yno!
October 15, 2025 at 6:48 PM
Byddwn yn cadw'r Diolchgarwch yfory yn Eglwys Dewi Sant yfory, 12 Hydref gyda gwasanaeth o'r Cymun Bendigaid ar gân gyda'r Parchedig Elinor Talfan Delaney yn pregethu am 10.30am a'r Hwyrol Weddi ar gân am 6.00pm.

"Mae grasusau heb eu haeddu
Ar ein bwrdd o hyd yn llawn"
October 11, 2025 at 12:41 PM
Os 'dych chi'n digwydd bod yng Nghaerdydd y bore 'ma, mae croeso i chi alw draw i Eglwys Dewi Sant am baned a sgwrs ac ymuno â'n Coffi a Chlonc.
September 20, 2025 at 8:23 AM
Os 'dych chi'n hoffi her a hanes, bydd Eglwys Dewi Sant ynghyd ag eglwysi eraill sy'n aelodau o Cytûn Dinas Caerdydd a'r Bae yn cymryd rhan mewn helfa hanes fel rhan o 'Ddrysau Agored'. Bydd Dewi Sant yn agored rhwng 10.30am a chanol dydd yfory 6 Medi a dydd Sadwrn 13 Medi.
September 5, 2025 at 10:02 PM
Buodd Eglwys Dewi Sant ar bererindod i Abaty Margam wythnos diwethaf. Cafwyd cyfle i ymdawelu, dysgu am ei hanes cyfoethog a chyfle i gyd-addoli yn yr eglwys ac yn adfeilion Capel Mair ar y Bryn. Cafwyd croeso mawr a chynnes gyda phaned a darn o fara brith blasus iawn.
September 4, 2025 at 4:12 PM
Dros y 6 mis diwethaf yr ydym fel eglwys wedi cael y fraint o fod yn gartref i Gerddorfa Dovetail. Mae'r gerddorfa hon yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Cynhelir cyngerdd diwedd tymor yfory, 24 Gorff am 11am yn yr Eglwys. Croeso i chi ddod a mwynhau y gerddoriaeth.
July 23, 2025 at 4:58 PM
Os dych chi'n chwilio am gyfle i sgwrsio yn Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar, mae croeso cynnes i chi ymuno â ni am ein bore Coffi a Chlonc yn neuadd Eglwys Dewi Sant dydd Sadwrn 19 Gorffennaf rhwng 10.30am a 12.00pm.
July 17, 2025 at 10:47 PM
Diolch i bawb sydd wedi fy nghroesawu i Bluesky. Mae'n hyfryd gwrdd a hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd mor gyflym.
July 17, 2025 at 10:45 PM
Dyma fi'n mentro am y tro cyntaf ar Bluesky - newydd a chyffrous.

Dwi'n addo bydd y neges nesaf ychydig yn fwy difyr!
July 14, 2025 at 3:05 PM