Gair y dydd: GORWEL,
geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800).
Englyn Dewi Emrys i'r gorwel:
Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod:
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.