Gwasg Prifysgol Cymru
@gwasgprifcymru.bsky.social
290 followers 220 following 82 posts
Cyhoeddi Cymru a'r byd er 1922. 📚 English: @uniwalespress.bsky.social 🔗 www.gwasgprifysgolcymru.org
Posts Media Videos Starter Packs
Pinned
gwasgprifcymru.bsky.social
Dyma rannu ein catalog Hydref Gaeaf 2025, sydd yn cynnwys y llyfrau Cymraeg a Saesneg y byddwn yn eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf!

Dilynwch y ddolen isod i bori, a phwyswch ar unrhyw glawr i gael eich tywys at y cyhoeddiad hwnnw ar ein gwefan!

⬇️📚
www.gwasgprifysgolcymru.org/app/uploads/...
HYDREF GAEAF 2025
CYHOEDDIADAU NEWYDD 
GWASG PRIFYSGOL CYMRU
UNIVERSITY OF WALES PRESS
gwasgprifcymru.bsky.social
Mae'r gyfrol 'Thomas Pennant: Cysylltiadau Cymreig' ar gael i'w darllen am ddim ar ein gwefan: www.gwasgprifysgolcymru.org/book/thomas-...

Neu mae modd prynu copi caled yn eich siop lyfrau leol.
gwasgprifcymru.bsky.social
Gwrandewch eto ar raglen @deitomos.bsky.social ar Radio Cymru i glywed ein hawdur @ffionmjones.bsky.social o @yganolfangeltaidd.bsky.social yn olrhain cysylltiadau Cymreig y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant.

👇
www.bbc.co.uk/sounds/play/...
gwasgprifcymru.bsky.social
Noson hyfryd ym Mhortmeirion nos Iau ddiwethaf ar gyfer lansiad y gogledd o gofiant Aled Eirug i Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr i bawb a fynychodd, i Aled, Elliw Gwawr, Mabon ap Gwynfor, Gwyneth Glyn a Twm Morys am eu cyfraniadau arbennig, ac i bentref Portmeirion am noson i'w chofio.
Reposted by Gwasg Prifysgol Cymru
golwg.360.cymru
Craffu360: Aled Eirug a’i lyfr newydd am Dafydd Elis-Thomas

Mae pennod newydd Craffu360 yn cael cwmni’r newyddiadurwr Aled Eirug i drafod ei lyfr newydd, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen
Craffu360: Aled Eirug a’i lyfr newydd am Dafydd Elis-Thomas
Mae pennod newydd Craffu360 yn cael cwmni’r newyddiadurwr Aled Eirug i drafod ei lyfr newydd, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder
golwg.360.cymru
Reposted by Gwasg Prifysgol Cymru
gwasgprifcymru.bsky.social
📚🚨 SÊL 📚🚨

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 400 o lyfrau yn ein sêl blwyddyn academaidd newydd!

Dathlwch ddechrau'r tymor newydd gyda'r cynnig arbennig hwn ⤵️

www.uwp.co.uk/sel-sale/
SÊL 
Blwyddyn Academaidd Newydd

Gostyngiad o 70%
Côd: AC25 
Cynnig yn dod i ben: 31 Hydref
gwasgprifcymru.bsky.social
📚🚨 SÊL 📚🚨

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 400 o lyfrau yn ein sêl blwyddyn academaidd newydd!

Dathlwch ddechrau'r tymor newydd gyda'r cynnig arbennig hwn ⤵️

www.uwp.co.uk/sel-sale/
SÊL 
Blwyddyn Academaidd Newydd

Gostyngiad o 70%
Côd: AC25 
Cynnig yn dod i ben: 31 Hydref
gwasgprifcymru.bsky.social
Bydd Aled mewn digwyddiadau ar hyd y wlad dros yr wythnosau nesaf, bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu cyn hir.

Mae'r gyfrol ar gael nawr mewn siopau llyfrau, a draw ar ein gwefan!

📚 www.gwasgprifysgolcymru.org/book/dafydd-...
8 Hydref - Clwb Tenis Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
10 Hydref - Neuadd Mathias, Prifysgol Bangor
30 Hydref - Storyville, Pontypridd
2 Tachwedd - Gŵyl Lyfrau Aberaeron 
6 Tachwedd - King’s Yard, Pontcanna, Caerdydd
8 Tachwedd - Wright’s Food Emporium, Llanarthne
13 Tachwedd - Canolfan Cantref, Y Bala
18 Tachwedd - Palas Print, Caernarfon
19 Tachwedd - Siop Penrallt, Machynlleth
20 Tachwedd - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
21 Tachwedd - Cymdeithas Archif Plaid Cymru, Caerdydd
gwasgprifcymru.bsky.social
Bu sylw i'r lansiad ar raglen Heno nos Fawrth, gydag Angharad Mair yn cyfweld Aled Eirug a Richard Wyn Jones.

Dilynwch y ddolen i wylio eto:

www.s4c.cymru/clic/program...
Llyfr Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder
gwasgprifcymru.bsky.social
Cafwyd noson arbennig yn dathlu lansiad 'Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder' gan Aled Eirug ym Mae Caerdydd nos Fawrth!

Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd, ac yn arbennig i Aled, Felicity Evans, Richard Wyn Jones, Mark Drakeford ac Elin Jones am eu cyfraniadau hynaws.

📹Tane Rogers-Eirug
gwasgprifcymru.bsky.social
Bu sylw i'r gyfrol yn y cyfryngau dros y penwythnos, dilynwch y dolenni isod i ddarllen a chlywed mwy:

📰Wales Online
www.walesonline.co.uk/news/politic...

📰@nation.cymru
nation.cymru/feature/biog...

🎧Rhaglen Sunday Supplement, BBC Radio Wales (38:44 munud)
www.bbc.co.uk/sounds/play/...
gwasgprifcymru.bsky.social
Roedd Dafydd Elis-Thomas yn un o fawrion gwleidyddol Cymru yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Yn y cofiant hwn, mae Aled Eirug yn olrhain bywyd a gwaith y ffigwr dadleuol a weddnewidiodd wleidyddiaeth ein cenedl.

Ar gael nawr, 'Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder':
📚 www.uwp.co.uk/book/dafydd-...
gwasgprifcymru.bsky.social
Ein llyfrau yn werth eu gweld yng nghynhadledd Gorwelion @yganolfangeltaidd.bsky.social!

Dewch draw at ein stondin i bori drwy ein llyfrau astudiaethau Celtaidd a Chymru a derbyn 20% o ostyngiad!

Methu mynychu? Ewch at ein stondin rithiol trwy ddilyn y ddolen isod!

www.uwp.co.uk/gorwelion-cy...
gwasgprifcymru.bsky.social
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at fynychu cynhadledd arbennig Gorwelion @yganolfangeltaidd.bsky.social yr wythnos hon i ddathlu eu deugain mlwyddiant!

Bydd dewis eang o'n llyfrau Astudiaethau Celtaidd a Chymru gennym i'w prynu ar ein stondin yn y gynhadledd.

Fe'ch gwelwn ni chi yno!
yganolfangeltaidd.bsky.social
📢Cynhadledd GORWELION Conference
🗓 17-19/09/2025
📍Llyfrgell Genedlaethol Cymru @librarywales.bsky.social
🗣Prif siaradwyr / Plenaries: Mererid Hopwood, Barry Lewis, & Ian Stewart.
🔗Rhagor o fanylion / Further information: www.wales.ac.uk/cy/canolfan/...
Reposted by Gwasg Prifysgol Cymru
curioustravellers.bsky.social
First, Ffion Mair Jones's 'Thomas Pennant: Cysylltiadau Cymreig', published by @gwasgprifcymru.bsky.social
curioustravellers.bsky.social
Two books coming out this summer from the Curious Travellers team!

1) Yn gyntaf, llyfr newydd Ffion Mair Jones (@ffionmjones.bsky.social) ar gysylltiadau Cymreig Thomas Pennant (Awst 2025, @gwasgprifcymru.bsky.social)

www.uwp.co.uk/book/thomas-...
Thomas Pennant | UWP
www.uwp.co.uk
gwasgprifcymru.bsky.social
"Dros y blynyddoedd, daeth delwedd Jemima yn dal ei phicwarch yn adnabyddus iawn."

Mynnwch gopi o gylchgrawn Golwg yr wythnos hon i glywed mwy gan Hywel M. Davies am Jemima Niclas a hanes yr ymgyrch olaf i goncro Prydain, testun ei gyfrol 'The Last Invasion: War, Women and Memory, 1797-1997'.
golwg.360.cymru
‘Yr ymgyrch ola’ i goncro Prydain’

“Roedd [y Jemimas] yn cael amser da, a phawb yn cofio eu bod nhw wedi sefyll lan i derfysgwyr” #CylchgrawnGolwg

✍️ Non Tudur
‘Yr ymgyrch ola’ i goncro Prydain’
“Roedd [y Jemimas] yn cael amser da, a phawb yn cofio eu bod nhw wedi sefyll lan i derfysgwyr”
golwg.360.cymru
Reposted by Gwasg Prifysgol Cymru
golwg.360.cymru
‘Yr ymgyrch ola’ i goncro Prydain’

“Roedd [y Jemimas] yn cael amser da, a phawb yn cofio eu bod nhw wedi sefyll lan i derfysgwyr” #CylchgrawnGolwg

✍️ Non Tudur
‘Yr ymgyrch ola’ i goncro Prydain’
“Roedd [y Jemimas] yn cael amser da, a phawb yn cofio eu bod nhw wedi sefyll lan i derfysgwyr”
golwg.360.cymru
gwasgprifcymru.bsky.social
Cyn hir!

Dyma gyfrol sy'n olrhain hanes gwahanol fudiadau ac unigolion a geisiodd greu byd gwell yng Nghymru’r ugeinfed ganrif trwy fentrau iwtopaidd amrywiol.

Am fwy o wybodaeth am 'Ynysoedd Gobaith' gan Llion Wigley (@wigs24.bsky.social), ewch at:

📚 www.gwasgprifysgolcymru.org/book/ynysoed...
gwasgprifcymru.bsky.social
📚 Lansiad!

Ymunwch â ni i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd David Stephenson, ‘Heirs to the Princes: The Welsh Administrative Elite, from the Edwardian Conquest to the Black Death’, yn rhithiol gyda Chymdeithas Hanes Mortimer.

🕢7:30yh
📅24 Medi

Mwy o fanylion: mortimerhistorysociety.org.uk/events/
gwasgprifcymru.bsky.social
Eisiau copi caled? Mae cyfrol clawr meddal hefyd ar gael yn eich siop lyfrau leol!

Am fwy o wybodaeth, ewch at ein gwefan: www.gwasgprifysgolcymru.org/book/thomas-...
‘Drwy archwilio ei berthynas gymhleth â’i wlad enedigol, yn ystod ac ar ôl ei oes, mae’r gyfrol fywiog a threiddgar hon yn cynnig golwg dadlennol newydd ar Thomas Pennant ac yn gyfraniad nodedig i’n dealltwriaeth o hanes diwylliannol a deallusol Cymru.’

Yr Athro Emeritws Huw Pryce, Prifysgol Bangor
gwasgprifcymru.bsky.social
*Mynediad Agored*

Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno’r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith.

Darllenwch 'Thomas Pennant: Cysylltiadau Cymreig' gan @ffionmjones.bsky.social am ddim yma:

📚 doi.org/10.16922/tho...
Reposted by Gwasg Prifysgol Cymru
yganolfangeltaidd.bsky.social
📢Cynhadledd GORWELION Conference
🗓 17-19/09/2025
📍Llyfrgell Genedlaethol Cymru @librarywales.bsky.social
🗣Prif siaradwyr / Plenaries: Mererid Hopwood, Barry Lewis, & Ian Stewart.
🔗Rhagor o fanylion / Further information: www.wales.ac.uk/cy/canolfan/...
gwasgprifcymru.bsky.social
Ar gael nawr - argraffiad newydd o 'Rhoi Cymru'n Gyntaf' gan @richardwynjones.bsky.social.

Mae’r gyfrol arloesol hon yn olrhain datblygiad syniadaethol Plaid Cymru o’i geni yng ngaeaf 1924–5 hyd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn haf 1999.

📚 www.gwasgprifysgolcymru.org/book/rhoi-cy...
gwasgprifcymru.bsky.social
I'w gyhoeddi cyn hir - 'Lliaws Rhith'.

Dyma gyfrol gyfoethog o ysgrifau Cymraeg a Saesneg yn ymwneud ag amrywiol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd, sy’n dathlu cyfraniad arbennig yr Athro Marged Haycock i’r ddisgyblaeth.

Am fwy o wybodaeth, ewch at:
📚 www.uwp.co.uk/book/lliaws-...
gwasgprifcymru.bsky.social
Ar gael nawr - argraffiad newydd o 'The Welsh Nationalist Party 1925-1945' gan D. Hywel Davies.

Dyma lyfr sy'n ystyried hanfod Plaid Cymru o'i sefydlu ym 1925 hyd 1945 - ei hathroniaeth a'r polisïau a gofleidiodd, y dulliau a ddefnyddiodd, a'i chymeriad sefydliadol.

📚 www.uwp.co.uk/book/the-wel...
gwasgprifcymru.bsky.social
I'w gyhoeddi cyn hir.

Roedd Dafydd Elis-Thomas yn un o fawrion gwleidyddol Cymru yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Yn y cofiant hwn, mae Aled Eirug yn olrhain bywyd a gwaith y ffigwr dadleuol a weddnewidiodd wleidyddiaeth ein cenedl.

Mwy o wybodaeth:
📚 www.gwasgprifysgolcymru.org/book/dafydd-...