Lowri Haf Cooke
banner
lowrihafcooke.bsky.social
Lowri Haf Cooke
@lowrihafcooke.bsky.social
Merch y Ddinas. Sgwennu, Darlledu, Ffilm, Bwytai a’r Celfyddydau / Author, Broadcaster @S4C @BBCWales Film & Arts Critic, Food & Travel Writer #CanllawBachCaerdydd #BwytaiCymru #AmserNadolig
Canmlwyddiant Richard Burton; talent aruthrol, a hunan-ddinistriol. Tu ôl i'r glitz a'r glamour roedd 'Rich' yn gawr o actor, ar lwyfan, ar y radio a'r sgrîn fawr. Talais deyrnged iddo heddiw @PrynhawnDa @s4c.cymru gan rannu cysylltiad teuluol... ✨ lowrihafcooke.wordpress.com/2013/02/06/a...
November 10, 2025 at 10:37 PM
Edrych ymlaen i gael cwmni Carwyn Graves a Nerys Howell i gael trafod 'Iaith Goll Bwyd Cymreig' - boed yn hen ryseitiau, gynhwysion neu dechnegau coginio - yng Ngŵyl Fwyd y Fenni eleni. Ymunwch â ni - a chyfrannwch, da chi - ym mhabell Local & Vocal gerddi'r castell am 12.30 ar b'nawn Sul, Medi 21 x
September 17, 2025 at 7:08 PM
Where to begin with this dire property piece? Time to read the room @theguardian.com

'Why own one home when you can have a whole hamlet?'

'The hamlet is on the route between Aberystwyth and Eryir [sic]'

Felin Brithdir is located in Rhydlewis, 30 miles south of Aberystwyth, nowhere near Eryri.
July 5, 2025 at 4:30 PM
Yn pori trwy'r penawdau ar raglen @HCynwal bore ma - estynwch am baned ac ymunwch â ni i roi'r byd yn ei le ar fore Sul @BBCRadioCymru x
May 11, 2025 at 7:31 AM
Y glitz, y gwleidyddiaeth a gwobr i Gymru; adolygiad o seremoni'r Oscars gen i ar raglen #DrosFrecwast ar @BBCRadioCymru bore ma. Enillydd mawr y noson #Anora yn ffilm am Americanes sy'n cael y gore ar fwlis o Rwsia. 2 'badass' arall y noson oedd y cyflwynydd Daryl Hannah a Peter Straughan #Conclave
March 3, 2025 at 8:57 AM
Adolygiad gen i o ffilm ddogfen Gwlad Bardd ar raglen @PrynhawnDaS4C dydd Gwener. Dilyniant o fath i'r ffilm Anorac, sy'n cynnig gwledd i'r llygaid - mae mlaen heno am 8.30 @s4c.cymru
March 1, 2025 at 12:22 PM
Neuadd y Ddinas, Caerdydd
February 20, 2025 at 9:42 AM
Cofio darllen colofn wythnosol Bridget Jones @the-independent.com - cydiodd yn y zeitgeist a phenrhyddid y 90au. Mae na reswm da pam fod Bridget dal yn boblogaidd ac mae'r ffilm newydd yn annisgwyl o ddirdynnol, bach fel Up gan Disney Pixar. Adolygiadau gen i heddiw ar @s4c.cymru a @BBCRadioCymru 🎬
February 14, 2025 at 8:21 PM
You said it, Irving #Severance
February 7, 2025 at 9:25 AM
Ymysg y ffilmiau dan sylw gen i heddiw ar 'Prynhawn Da' @s4c.cymru; ffilm wych gyda Matthew Rhys yn dathlu 50 mlwyddiant y gyfres #SaturdayNightLive, a chomedi hollol honco gydag un o sêr mawr y gyfres wallgo honno, Will Ferrell. Croeso cynnes i chi ymuno â mi 🎬 #SaturdayNight #YoureCordiallyInvited
January 31, 2025 at 10:59 AM
Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, adolygiad dwy ffilm berthnasol, a gwahanol iawn. Gwrandewch ar raglen Bore Cothi 27/01/25 ar BBC Radio Cymru @bbcsounds.bsky.social
www.bbc.co.uk/programmes/b...
January 27, 2025 at 1:42 PM
Jyst meddwl pa mor ffodus oeddwn i i gael John Hefin fel Athro Ffilm yn Aber. O'n i eisioes yn ffan enfawr oTwin Peaks yn mynd i'r coleg, ond pan welais i Blue Velvet ... wel... Be alla i ddweud? Unwaith i chi weld ffilm gan David Lynch fydd bywyd byth yr un fath. A hynny mewn ffordd dda x
January 19, 2025 at 12:07 PM
Adolygiadau lu gen i ar raglen #BoreCothi gyda Heledd Cynwal, a phob ffilm tro ma ar ddechrau'r flwyddyn newydd yn cynnig adloniant o'r radd flaenaf (Ie, hyd yn oed yr un gyda'r mwnci... ) 🎬 @BBCRadioCymru www.bbc.co.uk/sounds/play/...
January 6, 2025 at 1:49 PM
Nadolig Llawen! Diolch i bob cyfranwr a darllenwr Amser Nadolig, ac i bawb sydd wedi mwynhau. Dwi'n edmygu traddodiad Jólabókaflóðið (Llif o Lyfrau) Gwlad yr Iâ yn fawr, sy'n digwydd ar Noswyl Nadolig ers 1944; yr arfer o gyfnewid neu roi llyfr yn anrheg, gan annog pawb i swatio a darllen. Be well?
December 24, 2024 at 9:03 PM
Cinio, cynghorion ac atgofion Bwyd Nadolig ar raglen #BoreCothi @bbcradiocymru - yfwch, bwytewch a byddwch lawen!🎄🥂🍽️✨
December 13, 2024 at 8:52 PM
Dolig Dulyn 🎄✨🇮🇪
December 10, 2024 at 9:45 PM
Sgil-effeithiau Storm Darragh ar gae chwarae #ParcYRhath / Roath Park wreck #Cardiff #Caerdydd
December 7, 2024 at 6:03 PM
Bore Da! Rhagfyr rhagorol i chi... a chyfarchion o Gaerdydd lle dwi'n pori trwy'r papurau Sul ar raglen @BBCRadioCymru #BoreSul🎄 x
December 1, 2024 at 8:05 AM
Lliwiau llachar Parc y Rhath ar ddiwrnod olaf mis Tachwedd. Wir wedi mwynhau trac yr wythnos, Tachwedd gan Gareth Bonello a'r criw @gentlegood.bsky.social pob p'nawn @BBCRadioCymru wythnos ma, ar y ffordd o Lanelwedd, Llansawel a Chwm Gwendraeth, ond does unman yn debyg i adre! ❤️ #Caerdydd #Cardiff
November 30, 2024 at 4:17 PM
Hwyl yn y Ffair Aeaf, wrth goginio rysait o fy llyfr #AmserNadolig gydag Elwen Roberts @HybuCigCymru. Dan sylw? Rysait cig oen Ceredigion Dr Marion Löffler sy'n 'ffiwsion' o flasau Cymreig ac Almaenig! Werth sawru ei chyfraniad hyfryd i'r gyfrol, sy'n cynnwys atgofion bwyd Nadolig ei phlentyndod ✨
November 25, 2024 at 5:58 PM
Diolch i griw hyfryd @siopcantamil am y croeso - a'r cwmni da! - yn Cathays, Caerdydd, heddiw ma. Pentwr o gyfrolau #AmserNadolig wedi'u harwyddo os hoffech lyfr yn anrheg, i'w rannu ag eraill, neu'n rhodd dymunol i chi'ch hun 📚🎄'Creu atgofion yw'r Nadolig, a'r anrheg fwyaf yw amser' ✨
November 23, 2024 at 1:54 PM
Wythnos o goginio ryseitiau lleol, o 'pasty pie' a 'theisen lap' Llansawel, Nedd Port Talbot, i gacen foron (ffres o ardd yr ysgol!) yng Ngharwe, Cwm Gwendraeth. Mae bwyd yn borth i'r dychymyg, diwylliant lleol, atgofion teuluol, barn bersonol a'r iaith Gymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿#ysgolioncreadigolarweiniol
November 21, 2024 at 5:46 PM
Mae Sally Rooney, efo pob nofel ganddi, fel pe bai'n estyn am allwedd i agor fy mhenglog. Dyma nofel hollol ardderchog. Y gorau eto? Bosib iawn. Yn goron ar flwyddyn o nofelau gwych o Iwerddon, dyma astudiaeth o ddau frawd gwahanol iawn, effeithiau galar a chariad mawr x
November 20, 2024 at 7:26 PM
Nodyn ar gyfer y dyddiadur, os ydych chi'n hoffi mins peis cartre! Croeso i chi ym mharti lansio #AmserNadolig nos Wener Tachwedd 22 am 7yh, Neuadd Ddawns Kings Road Yard, Pontcanna. Bydd llu o sêr y gyfrol yno a bar Pipes Pontcanna ar agor. 'Dewch, closiwch, cymerwch sedd, mae'n Amser Nadolig...'🎄✨
November 17, 2024 at 9:03 PM
Ysgubol. Ffilm Nadolig llawn teimlad, yn seiliedig ar nofel fer wych. Perfformiad pwerus gan Cillian Murphy, a phrofiad sinematig o fri. Un o'r ffilmiau newydd sbon yr adolygias yr wythnos hon @bbcradiocymru a @prynhawndas4c. #smallthingslikethese #comghairdeas #maiththú
November 16, 2024 at 6:24 PM