Siani Gillespie
banner
sianigillespie.bsky.social
Siani Gillespie
@sianigillespie.bsky.social
Mam, Mamgu, Ffotograffydd a Cherddor.
Newyddion da. Fe ddaeth y trydan nôl heno am hanner awr wedi wyth. Mor hapus. Wedi treulio’r awr ddwetha yn tynnu popeth mas or rhewgell a gosod y cyfan mewn bwcedi yn barod iw casglu. Ychafi. O leia bydd dim rhaid gwynebu’r cyfan yn y bore.
December 11, 2024 at 9:57 PM
Mae fy mam yn 86, ac mae’r oerfel wedi bod yn galed iawn iddi, ond rydym fel teulu wedi trio ei gwneud mor gyffyrddus a phosib. Mae diffyg gwybodaeth heb helpu llawer hefyd. Heblaw am neges yn dweud fydd y pwer nôl nos Iau am 10yn, mi fuasai ‘updates’ wedi helpu i ddeall beth a ble mae’r broblem
December 11, 2024 at 6:06 PM
Ti’n llygad dy le Llinos x
December 11, 2024 at 3:28 PM
Wedi bod yn meddwl llawer am fy ngyndeidiau a’i ffordd o fyw ar ôl cael y profiad hyn. Rhaid fod bywyd môr galed iddynt. Dwi wedi bod yn darllen llyfr #hefinwyn ar Twm Carnabwth a Salem gan Endaf Emlyn yng ngolau cannwyll. Hefyd, mae’r radio wedi bod yn gysur, ond yn bwyta batrys !!
December 11, 2024 at 1:00 PM
Ma nwy da fi i dwymo bwyd ond a bod yn onest, does da fi ddim chwant llawer. Sŵp a uwd yw hi wedi bod ers dydd Sadwrn.
December 11, 2024 at 12:59 PM
Diolch i ti Llinos am dy gynnig caredig, ond does dim all unrhyw wneud i helpu a bod yn onest. Gwisgo tair siwmper ar hyn o bryd, a mynd allan ir car i dwymo a chargo’r ffôn pan fo angen xx
December 11, 2024 at 12:16 PM
Diolch i ti Llinos xx
November 30, 2024 at 11:33 AM
Diolch yn fawr
November 23, 2024 at 3:43 PM