Yr Hen Ddeurodiwr
banner
yrhenddeurodiwr.bsky.social
Yr Hen Ddeurodiwr
@yrhenddeurodiwr.bsky.social
Seiclwr, beiciwr, olwynwr, deurodiwr, rhedegydd ceffyl haearn.
Beicio dros Gymru a’r Gymraeg : Cycling for Welsh and for Wales

https://yrhenddeurodiwr.wordpress.com
Sioe liwgar yn iard fawr y Sentral Sgwêr leni. Tipyn gwell na'r goedan salw oedd yno bedair blynadd yn ôl! Ond dwi'n dal ar drywydd carolau heddiw'r bora Sul cyn yr Ŵyl. #henhenstori
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2021/12/21/a...
December 21, 2025 at 7:39 AM
O diar! Mwy o gyfieithu mecanyddol gwallus? AI da 'di DA?
Onid Rheilffordd Fawr y Gorllewin sy'n gywir ar gyfer Great Western Railway? #WestIsBest (ar gyfer pawb, ond y WRU!)
December 14, 2025 at 9:55 AM
Sioe liwgar yn iard fawr y Sentral Sgwêr leni.
Tipyn gwell na'r goedan salw oedd yno bedair blynadd yn ôl! Ond dwi'n dal ar drywydd carolau heddiw'r bore. #henhenstori yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2021/12/21/a...
December 14, 2025 at 9:45 AM
Taith i chwilio am, a chanfod hanas y gofeb hon i feicwyr o filwyr a ddadorchuddiwyd gan mlynedd union yn ôl, ddechra Rhagfyr 1925.
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2024/05/12/r...
December 6, 2025 at 7:37 AM
Gehry - meistr pensaernïaeth drawiadol (1929-2025).
#Guggenheim #Bilbo #EuskalHerria
December 5, 2025 at 10:11 PM
Nid Bovril oedd yr ateb pan ddiffygiais i wrth ddeurodio - hynny yw 'boncio'.
Cewch chydig o hanas busnas lleol fa'ma hefyd.
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2024/08/24/a...
December 4, 2025 at 9:59 PM
Mae’r hen arwyddion y tu allan yn dal i bylu. Ond braf gweld arwydd newydd yn y cyntedd a’r lle di sbriwsio’n fflatiau diddos.
Wele hanas y Wells:
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2020/05/12/w...
December 2, 2025 at 7:26 PM
Ben Jennings yn llygad ei le yn y Guardian.
November 12, 2025 at 7:23 AM
Mae'n ddechra Tachwedd - 10 mlynedd union ers marw Elen Wyn (1982-2015).
Wele chydig o'i hanas hi a'r Wells Hotel.
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2020/05/12/w...
November 6, 2025 at 8:44 AM
Colli Trysor Cenedlaethol. Diolch iddo am ei gyfraniad aruthrol i'r Gymraeg, i Gaerdydd ac i Gymru.
Doedd na mond un Gwilym.
November 5, 2025 at 1:46 PM
Am gofeb weddus iawn.
Dyma lun o'r un yng Nghaerdydd. Ond mae llawer mwy yn cysylltu'r ddinas a'i phobl â'r Rhyfel Cartref yn Sbaen. Wele'r hanes:
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2023/11/24/o...
November 4, 2025 at 9:58 AM
76 mlynadd union ers marw "wedi anlwc greulon y dewra' o'n hawduron", wele hanesyn amdana i, a William Jones, yn chwilio amdano. #aydh
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2020/07/04/t...
October 24, 2025 at 6:18 PM
Hanesyn newydd am ddathlu llwybrau ac arwyr, a ballu gan 'The Old Deutoronomy' (chwadal Gŵgl a'i gyfieithydd).
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2025/10/12/a...
October 15, 2025 at 6:54 AM
Dal i gofio’r daith feicio trwy’r ynysoedd. Profiad bendigedig a golygfeydd gwych. A chrys-t i ddathlu cwblhau’r daith!
October 9, 2025 at 8:28 AM
O diar! Dwi’n hen, ond a ydw i’n hŷn na hen?
October 1, 2025 at 12:52 PM
Snap!
September 26, 2025 at 8:29 AM
W-Dyna faen diddorol!
Hanas taith ddeurodio i ddysgu mwy amdano flwyddyn yn ôl. Amserol iawn o gofio am feddylfryd Trump a Hegseth!
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2024/09/23/w...
September 24, 2025 at 3:56 PM
Sbïwch beth sydd am ddod i'r Sentral Sgwêr yn G'dydd i daflu cysgod enfawr dros Betty (a phopeth arall yno!) #50llawr
Dyma fwy am Betty, i nodi pedair blynadd ers iddi gyrraedd y llecyn. yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2021/09/18/b...
September 17, 2025 at 9:45 AM
Yma yn 1917 y cyhoeddwyd Hedd Wyn, a laddwyd chwe wythnos ynghynt, yn enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol - Cadair Ddu Penbedw.
[llun tra ar daith yno yn #aydh 2017]
September 6, 2025 at 7:57 AM
Braf gweld yr Albany ar i fyny ac mewn dwylo diogel. Bydd rhaid i mi biciad yno fel stalwm - sawl tro. Pob hwyl i Luke a’r teulu.
Diolch i @lowrihafcooke.bsky.social am yr hanas. @golwg.cymru
August 30, 2025 at 2:52 PM
"Mae llawar o bobl C’dydd yn credu mai’r unig beth o bwys yn Minny Street yw ei chapal Annibyns."

Dwi'n dal i chwilio am fwy o offer P&T. Wyddoch chi am rai yn rhwla?
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2024/08/24/a...
August 22, 2025 at 6:52 AM
Iechyd da a diolch i chi oll, Anna. Braf cael reidio'n rhithiol gyda chi.
Mi godaf wydryn yn arbennig i Tim pan y dowch at ben eich taith yn John O'Groats.
August 20, 2025 at 8:35 PM
Wedi ffeindio trysor wrth glirio’r llofft acw.
A dyma bwt am fy Mash Street i :

yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2023/01/29/f...
August 10, 2025 at 6:38 AM
Be ddigwyddodd i'r gemau pêl-fâs oedd mor boblogaidd ar y Rec stalwm, dwch?
Criced wedi ei draflyncu gyda'i gemau Hundred!
August 4, 2025 at 8:22 AM
Mae Cyngor Caerdydd yn dal i potsian gydag acenion - dyma'r diweddaraf.
Hyn er i mi sgwennu hwn i'w hatgoffa.
yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2020/08/01/c...
August 3, 2025 at 6:39 AM