banner
joheyde.bsky.social
@joheyde.bsky.social
Bardd; Chwarter Eiliad (Barddas); Cân y Croesi (Cyhoeddiadau’r Stamp); Cydlynydd Bardd y Mis;
Ffosfforws2-6; O Ffrwyth y Gangen Hon; Cerddi’r Arfordir; MODRON 4;🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Pinned
Reposted
Pwy ŵyr sut gall fod briallu’r gwanwyn
yn gwenu Fis Rhagfyr?
Pa gyffro gwallgo a’u gyrr,
diniweited eu natur?
December 19, 2025 at 5:20 PM
Reposted
Nos o goed a chysgodion - ymwelwyr
dan gymylau llwydion
efo’r hwyr yn crwydro’r fron
yn dawel: y da duon.
December 11, 2025 at 5:13 PM
Reposted
Llinellau cerddi Beirdd y Tywysogion yn nhrefn yr wyddor / lines from the poems of the Poets of the Princes, in alphabetical order. @yganolfangeltaidd.bsky.social

www.geiriadura.cymru/post/beirdd-...
Beirdd y Tywysogion (c.1100–c.1282/3)
Dyma restr yn nhrefn yr wyddor o linellau cerddi Beirdd y Tywysogion i chi gael ei lawrlwytho os gall fod yn ddefnyddiol i chi. Fe'i defnyddiaf i adnabod cerddi mewn llawysgrifau - yn enwedig drylliau...
www.geiriadura.cymru
November 21, 2025 at 6:54 PM
Reposted
✏️📚 ‘Cyfle i ddathlu barddoniaeth a beirdd’

Fe gafodd wyth o feirdd gan gynnwys Eirug Salisbury a Gruffudd Antur eu cloi yng Nghastell Aberteifi dros nos mewn cystadleuaeth barddoni
Eistedfod Unnos: Cloi wyth bardd mewn castell dros nos
Fe gafodd wyth o feirdd gan gynnwys Eirug Salisbury a Gruffudd Antur eu cloi yng Nghastell Aberteifi dros nos mewn cystadleuaeth barddoni
newyddion.s4c.cymru
December 6, 2025 at 8:41 AM
Reposted
📚 Recordio TALWRN Y BEIRDD
📍 Canolfan Gymuned yr Hen Ysgol, Llanybydder
📆 19:00, 6 Ionawr 2026
Recordio TALWRN Y BEIRDD
calendr.360.cymru
November 27, 2025 at 4:20 PM
Reposted
Ymson Ysgrifennydd Cartref

Mae hawliau hyd yr ymylon i bawb
o ryw bobol estron
Pawb a’i hawl? Fy hawl yw hon:
yr hawl i fod yn greulon.

Doed dydd y caffo’r Goron - reoli
heb ryw hawliau gwirion;
ond un hawl a gadwn, hon:
Yr hawl i fod yn greulon.
November 17, 2025 at 9:40 PM
Reposted
Pennod 74 – Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen @yrheniaith.bsky.social

Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i'r ddau drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn.

Gwyliwch a gwrandewch nawr: www.ambobdim.cymru/profile-cont...
November 6, 2025 at 9:50 AM
Reposted
A’u higam-ogam fflamgoch
yn darfod yn gawod goch,
dydd barn, goeden fasarn fach,
yw dydd olaf dy ddeiliach.
November 8, 2025 at 10:04 PM
Reposted
We’ll be starting our reading circle this coming Tuesday with Virginia Woolf’s Orlando and a hikayat by Sa’adi Shirazi.
I still have a few spots available, which I’m happy to offer to readers outside Balochistan on a first-come, first-served basis.
Please feel free to spread the word!
I'm starting a free online course for readers and learners in Balochistan to explore literature and translation across Urdu, Persian, and English.
Places limited to the first fifteen sign-ups.
Message me here or email at [email protected] to register
November 2, 2025 at 3:39 PM
Reposted
Wyddoch chi y gallwch chi ddarllen dwy erthygl AM DDIM ar wefan newydd sbon BARN y mis yma?

Mae un ohonynt, gan ein gohebydd Geraint Lewis, yn trafod y prinder llwyfan i gerddoriaeth glasurol yng Nghymru. 🎻

Ewch i 🔗 barn.cymru i'w darllen nawr!
October 24, 2025 at 1:47 PM
Reposted
Plaid Cymru yn ennill is-etholiad Caerffili

newyddion.s4c.cymru/article/30996
Plaid Cymru yn ennill is-etholiad Caerffili
Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, wedi ennill yr is-etholiad i Senedd Cymru yn etholaeth Caerffili.
newyddion.s4c.cymru
October 24, 2025 at 3:32 AM
Reposted
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Plaid Cymru WIN Caerphilly
💚 Plaid Cymru yn ENNILL Caerffili.

Llongyfarchiadau Lindsay Whittle - the new Member of the Senedd for Caerphilly.

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
October 24, 2025 at 1:17 AM
Reposted
🚨 Caerphilly - vote Plaid Cymru tomorrow! 🗳️

The polls show Plaid Cymru is neck and neck with Reform. ⚠️

Vote Plaid Cymru's Lindsay Whittle for a local champion who will always put the people of Caerphilly first - and to stop Reform.

Every vote counts! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
October 22, 2025 at 4:33 PM
Reposted
Y cyflwynydd Mari Grug yn rhannu realiti byw gyda chanser mewn rhaglen ddogfen newydd

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae’n rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chanser metastatig mewn rhaglen ddogfen ar S4C

✍️ Rhiannon Heledd Williams
Y cyflwynydd Mari Grug yn rhannu realiti byw gyda chanser mewn rhaglen ddogfen newydd
Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae’n rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chanser metastatig mewn rhaglen ddogfen ar S4C
golwg.360.cymru
October 22, 2025 at 11:00 AM
Reposted
Pennod newydd Rhaglen Cymru🎧

Y Pethe a'r Prifardd

Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch yw gwestai Andy yn y bennod hon.

Gwrandwch yma ypod.cymru/podlediadau/...
Y Pod - Rhaglen Cymru
Rhaglen Cymru
ypod.cymru
October 21, 2025 at 7:19 AM
Reposted
Ar 21 Hydref 1966, lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion yn nhrychineb erchyll Aberfan, a achoswyd gan fethiant y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Heddiw, rydym yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau ac yn sefyll gyda chymuned Aberfan nawr a bob amser.

Byth eto. #CofiwnAberfan.
October 21, 2025 at 6:00 AM
Reposted
Mae’r dewis wythnos nesaf yn glir.

✅ Lindsay Whittle - sydd wedi treulio ei fywyd yn sefyll dros ei gymuned.
❌ Reform - dim ond yng Nghaerffili i hyrwyddo Nigel Farage a’i fuddiannau ef.

🗳️ Ar 23 Hydref, pleidleisiwch dros Blaid Cymru am lais lleol cryf a dyfodol gwell i Gaerffili.
October 18, 2025 at 12:34 PM
Reposted
Cwestiwn: pa weilch a’u castiau olygodd
fod blagur afalau
fis Hydref yn hunllefau
bach melys, brawychus, brau?
October 18, 2025 at 2:24 PM
Reposted
Gwrandewch eto ar raglen @deitomos.bsky.social ar Radio Cymru i glywed ein hawdur @ffionmjones.bsky.social o @yganolfangeltaidd.bsky.social yn olrhain cysylltiadau Cymreig y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant.

👇
www.bbc.co.uk/sounds/play/...
October 8, 2025 at 12:27 PM
Reposted
Mae newid ar y gweill i wleidyddiaeth Cymru.

Mae'r dewis yn glir: Dirywiad a chasineb Reform, neu obaith ac uchelgais gyda Phlaid Cymru.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer dyfodol gwell i Gymru. Byddwch yn rhan ohono 👉 plaid.cymru/cynhadledd2025
October 3, 2025 at 4:33 PM
Reposted
🚨 Dim ond Plaid Cymru all guro Reform yng Nghaerffili!

Mae Lindsay Whittle yn llais lleol, dibynadwy sydd wastad wedi sefyll dros ei gymuned.

Ar 23 Hydref, pleidleisiwch #PlaidCymru am y gynrychiolaeth y mae #Caerffili yn ei haeddu ✊
October 2, 2025 at 11:33 AM
Reposted
Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson yn galw am bwerau dros ein hadnoddau naturiol - ond wnaeth Llafur atal ein hymgais! 🤯

Byddai datganoli Ystâd y Goron yn caniatáu i'n cymunedau buddio'n uniongyrchol, gyda help i filiau ynni.

Dim ond Plaid Cymru sy'n sefyll fyny dros Gymru. ✊
September 29, 2025 at 11:04 AM
Reposted
Wedi gorffen darllen cynnyrch llenyddol Eisteddfod Wrecsam eto? 📚👑🪑

Yn rhifyn Medi BARN mae Dylan Iorwerth yn bwrw golwg ar y Cyfansoddiadau a Meg Elis yn adolygu'r ddwy gyfrol ryddiaith fuddugol - 'Anfarwol' Peredur Glyn a 'Cuddliwio' Bryn Jones.
September 20, 2025 at 12:34 PM
Reposted
📚 Noson yng nghwmni Mari George
📍 Caffi Emlyn, Tanygroes, Ceredigion SA43 2JE
📆 19:30, 3 Hydref
Noson yng nghwmni Mari George
calendr.360.cymru
September 20, 2025 at 11:05 AM
Reposted
Ymateb i'r arolygon barn am etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf y mae @richardwynjones.bsky.social ein colofnydd gwleidyddol yn rhifyn mis Medi BARN ✍️
September 20, 2025 at 12:03 PM